Mae cannoedd o bobol yn ffoi o ddinas Mosul yn Irac wrth i’r ymdrechion i drechu Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – ddirwyn i ben.

Dywedodd llefarydd ar ran lluoedd Irac fod trigolion – y rhan fwyaf ohonyn nhw’n fenywod a phlant – wedi dechrau gadael y ddinas.

Mae dwsinau o bobol eisoes wedi’u hanafu yn dilyn cyrchoedd blaenorol o’r awyr.

Fe fu rhai trigolion yn dioddef o ganlyniad i’r tymheredd uchel a phrinder dŵr ers rhai misoedd.

Mae disgwyl i luoedd Irac gyhoeddi buddugoliaeth ym Mosul dros y dyddiau nesaf.