Mae cladin ar bedwar bloc o fflatiau yn Abertawe wedi methu profion diogelwch.

Ond mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n mynnu bod yr adeiladau’n bodloni rheoliadau adeiladu.

Mae’r fflatiau yn Sgeti a Phenlan, ac fe ddaw’r newyddion am y profion ar ôl i 149 o flociau fethu’r un profion yn Lloegr.

Yn ôl Cyngor Abertawe, mae mesurau diogelwch ychwanegol yn eu lle ers y tân diweddar yn Llundain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gynnal profion ar y cladin ar saith bloc o fflatiau – yr un cladin a gafodd ei ddefnyddio ar Dŵr Grenfell.