Bashar al Assad, arlywydd Syria (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae’r Ty Gwyn wedi rhybuddio arlywydd Syria y bydd yn “talu’r pris” os y bydd yn cynnal ymosodiad cemegol arall ar ei bobol ei hun.

Mewn datganiad sy’n honni bod “tystiolaeth” fod Bashar al Assad yn cynllunio ymosodiad a allai arwain at ladd pobol gyffredin, yn cynnwys plant, mae’r Unol Daleithiau yn ei gynghori i ail feddwl.

Mae gweinyddiaeth Donald Trump yn mynnu eu bod wedi gweld arwyddion fod paratoadau tebyg i’r rhai cyn ymosodiad cemegol yn nhref Khan Sheikhou fis Ebrill, ar droed eto yn Syria. B

ryd hynny, fe laddwyd dwsinau o ddynion, merched a phlant.

Mae’r Arlywydd Assad yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad cemegol ar Ebrill 4 yn nhalaith Idlib.