Emmanuel Macron, Llun: O gyfrif Twitter En Marche!
Mae disgwyl i Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, adrefnu ei gabinet yn dilyn buddugoliaeth ei blaid yn etholiadau seneddol y wlad.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Ffrainc eisoes wedi cyhoeddi y bydd y Prif Weinidog, Edouard Philippe, yn ymddiswyddo.

Gweithred symbolaidd yw ad-drefnu’r cabinet ond mae’n bosib y bydd sawl gweinidog sy’n cael eu hamau o lygredd yn colli eu swyddi.

Yn dilyn etholiad cyffredinol Ffrainc mae plaid Emmanuel Macron, La République ên Marche, bellach â mwyafrif clir yn Senedd y wlad.

Apathi etholiadol

Er gwaethaf buddugoliaeth plaid  Emmanuel Macron, roedd canran y boblogaeth wnaeth bleidleisio yn isel gydag arbenigwyr yn dadlau mai siom â gwleidyddiaeth oedd yn gyfrifol.

Llwyddodd yr ymgeisydd arlywyddol ac arweinydd y blaid Front National, Marine Le Pen, i ennill ei sedd gyntaf yn yr etholiad ond fe gollodd dau aelod o’r blaid eu seddi.