Mae gweithwyr achub wedi dod o hyd i gorff dynes mewn môr o fwd, mewn pentref yn ne-ddwyrain Bangladesh.
Maen nhw’n chwilio am nifer o bobol eraill sy’n dal i fod ar goll yn dilyn y tirlithridadau sydd wedi lladd beth bynnag 141 o bobol.
Yn ôl yr awdurdodau, mae tua chwech o bobol yn dal i fod ar goll yn ardal Rangamati.
Yn y cyfamser, mae llywodraeth y wlad wedi bod yn canolbwyntio ar ddarparu bwyd a chmorth arall i’r 4,500 o bobol sy’n ddigartref ers y tirlithriadau ddydd Mawrth.
Mae teuluoedd hefyd yn derbyn arian a deunyddiau ar gyfer codi tai newydd.
Mae ffigurau swyddogol yn dweud fod 104 o bobol wedi’u lladd ac o leiaf 5,000 o gartrefi wedi’u dinistrio yn ardal Rangamati, lle mae pobol yn byw mewn pentrefi llwythol ar lan llyn, a mynyddoedd o’u cwmpas.
Mae 28 o bobol eraill wedi marw yn ardal arfordirol Chittagong; chwech o bobol yn Bandarba; dau yn Cox’s Bazar; ac un arall yn Khagrachhari.