Mae toriad yng nghyflenwad trydan maes awyr Brwsel yn golygu fod rhai cannoedd o deithwyr yn dal i aros i ddal eu hawyrennau.
Yn ôl llefarydd ar ran y maes awyr, fe gollwyd y cyflenwad am 5yb ddydd Iau, a’r adran i gael ei heffeithio waethaf oedd yr un yn delio â bagiau a chesys teithwyr.
Mae systemau awyru’r maes awyr hefyd wedi’u taro gan ddiffyg trydan.
Er bod cannoedd o bobol yn dal i giwio y tu allan i adeiladau’r maes awyr, mae’r cyflenwad trydan bellach yn ei ôl ac mae pobol yn gallu dychwelyd i’r adeilad a chael eu rhoi ar awyrennau.