Muammar Gaddafi
Mae’r Llys Troseddol Rhyngwladol wedi galw am arestio mab cyn-unben Libya, Muammar Gaddafi.

Cafodd Seif al-Islam ei rhyddhau dros y penwythnos wedi pum mlynedd dan glo, ond mae’n debyg fod warant cafodd ei gyflwyno gan y llys yn 2011 yn parhau i fod yn weithredol.

Mae Seif Al-Islam wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac erledigaeth am ei rôl honedig yn ymateb treisiol llywodraeth Libya i brotestiadau chwe blynedd yn ôl.

Gwnaeth Muammar Gaddafi hefyd gael ei gyhuddo o droseddi gan y llys ond cafodd ei ladd gan gwrthryfelwyr cyn oedd modd ei erlyn.

Nid oes gan y Llys Troseddol Rhyngwladol llu heddlu, ac maen nhw’n dibynnu ar gydweithrediad gwladwriaethau er mwyn arestio pobol sydd dan amheuaeth.