Fe fydd refferendwm ar annibyniaeth i Gatalonia yn cael ei gynnal ar Hydref 1 eleni, yn ôl Arlywydd y rhanbarth.

Cyhoeddodd Carles Puigdemont heddiw y bydd refferendwm yn cael ei gynnal er gwaethaf cychwyn cynnen wleidyddol a chyfreithiol gyda Llywodraeth Sbaen.

Dywedodd mai’r cwestiwn a fydd yn cael ei roi gerbron pleidleiswyr fydd: “A ydych chi am i Gatalonia fod yn wlad annibynnol ar ffurf gweriniaeth?”

Mae’n mynnu bod gan Gatalonia’r hawliau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol i fynnu hunanlywodraeth.

Sbaen yn gwrthod

Mae llywodraeth Sbaen yn gyndyn iawn o dderbyn unrhyw annibyniaeth i’r rhanbarth, gan ddadlau ei bod yn mynd yn groes i gyfansoddiad y wlad, ac maen nhw eisoes wedi addo y bydden nhw’n gwneud unrhyw beth posib i rwystro’r refferendwm rhag cael ei gynnal.

Mewn arolwg barn dair blynedd yn ôl, dywedodd 80% o bobol Catalonia eu bod nhw’n ffafrio annibyniaeth, er mai dim ond 2.3 miliwn allan o’r 5.4 miliwn o bobol sydd â’r hawl i bleidleisio wnaeth fwrw croes.

Er hyn, mae llywodraeth Catalonia yn mynnu y bydd y canlyniadau y tro hwn yn un cyfreithiol.