Mae pump o bobol wedi’u lladd mewn storm yn ardal Cape Town, De Affrica.
Yn ol adroddiadau, fe gafodd pedwar o bobol eu lladd mewn tân gafodd ei achosi gan fellt, ac fe fu farw’r pumed pan ddymchwelodd ty.
Roedd awdurdodau’r ddinas wedi ceisio rhoi mesurau mewn lle er mwyn diogelau trigolion tlotaf Cape Town sy’n byw mewn maestrefi gwasgaredig a thai dros-dro.
Ond er i’r storm gael croeso gan rai, wedi sychder difrifol, mae angen llawer mwy o law er mwyn llenwi’r cronfeydd sydd wedi cwympo i lefel isel iawn.
Roedd dinas Cape Town wedi gwahardd camddefnyddio dwr, ond erbyn hyn, mae’r awdurdodau’n annog trigolion i gasglu dwr glaw er mwyn tynnu dwr mewn toiledau a dyfrio.