Carwyn Jones
Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru’n paratoi am ei noson orau erioed yng Nghymru, yn ôl pôl piniwn sydd newydd ei gyhoeddi.

Daw’r pôl diweddaraf ddiwrnod cyn yr etholiad, ac mae’n gwrth-ddweud pôl cynharach oedd yn awgrymu y gallai’r blaid golli hanner ei seddi yng Nghymru.

Mae Baromedr Gwleidyddol Cymru bellach yn darogan y gallai’r blaid ennill 46% o’r bleidlais ac adennill dwy sedd gafodd eu colli i’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2015 – Dyffryn Clwyd a Phenrhyn Gŵyr.

Yn y pôl cyntaf ar Ebrill 24, roedd disgwyl i’r Ceidwadwyr ennill 40% o’r bleidlais, a Llafur i ennill 30%; erbyn Mai 8, roedd ganddyn nhw fantais o 6% dros Lafur ond roedd nifer eu seddi’n 20 o’u cymharu ag 16 i Lafur.

Ond erbyn Mai 22, roedd Llafur ar y blaen gyda 44% o’r bleidlais.

Noson dda i’r Ceidwadwyr?

Mae pôl arall gan YouGov ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac ITV Cymru yn awgrymu y gallai fod yn noson dda i’r Ceidwadwyr hefyd.

Mae’n awgrymu y gallen nhw ennill 34% o’r bleidlais, eu canlyniad gorau yng Nghymru ers dros ganrif.

Ond mae’n bosib na fydd hynny’n cael ei drosi i seddi, yn ôl y pôl.

Mae’r pôl diweddaraf yn awgrymu bod gan Lafur 46%, y Ceidwadwyr 34%, Plaid Cymru 9%, y Democratiaid Rhyddfrydol 5%, UKIP 5% ac 1% i’r gweddill.

Pe bai hynny’n wir, byddai Llafur yn ennill 27 allan o 40 sedd, y Ceidwadwyr yn ennill naw, Plaid Cymru tair a’r Democratiaid Rhyddfrydol un.

Dywedodd yr Athro Roger Scully y byddai’r fath ganlyniad i Lafur yn “gyflawniad rhagorol”.