Narendra Modi, prif weinidog India (Llun: PA)
Mae arweinwyr Ffrainc ac India wedi addo cydweithio er mwyn mynd i’r afael a newid yn yr hinsawdd.

Mae arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi dweud wrth brif weinidog India, Narendra Modi, y bydd yn teithio i Asia tua diwedd y flwyddyn hon ar gyfer uwch gynhadledd ar hyrwyddo egni’r haul.

Fe ddaeth cyfarfod i ben ym Mharis, yn dilyn penderfyniad arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i dynnu allan o’r cytundeb ar newid hinsawdd. Mae Mr Modi yn dweud y bydd India yn anrhydeddu ei hymrwymiad i’r cytundeb, ar ran “y Fam Ddaear”.

Mae India yn un o’r prif wledydd sy’n rhan o’r cytundeb, a hithau’n bedwerydd ar restr y byd o’r rheiny sy’n allyrru nwyon ty gwydr.

“Rydyn ni o blaid Cytundeb Paris, ac fe gariwn ni yn ein blaenau i weithio i’r cyfeiriad hwnnw,” meddai Narendra Modi.