Mae cyn-aelod o Lynges yr Unol Daleithiau wedi cael ei arestio ym maes awyr Orlando yn dilyn ffrae â’r heddlu a barodd dros dair awr.

Roedd gan Michael Pettigrew, 26, ddryll ffug yn ei feddiant ac fe achosodd fraw a dryswch i deithwyr wrth i rannau o’r maes awyr gael eu gwagio gan heddlu arfog.

Cafodd y dyn ei amgylchynu gan yr heddlu ym maes parcio’r maes awyr, yn ôl yr awdurdodau, ac roedden nhw’n credu bod ganddo fe ddryll go iawn.

Mae’r awdurdodau bellach yn asesu ei gyflwr meddwl wrth iddo wynebu cyhuddiadau o ymosod drwy fygwth.

Mae’r awdurdodau wedi canmol yr heddlu a staff y maes awyr am eu hymateb i’r digwyddiad.

Mae peth oedi i deithwyr ers y digwyddiad, ac mae’r heddlu wedi aros ar y safle am y tro.