Mae Ffrancwr a thri dyn o’r Congo a gafodd eu herwgipio ym mis Mawrth yn nwyrain y Congo, wedi’u rhyddhau.

Fe gawson nhw eu cymryd o gloddfa aur yn cael ei rhedeg gan y cwmni Banro Mining Cop yn Salamabila. Ond mae’r pedwar wedi’u rhyddhau yn dilyn rhai dyddiau o drafod gyda’r herwgipwyr.

Roedd yr herwgipwyr yn mynnu nad oedd y cwmni yn gofalu am y gymuned y maen nhw’n gwneud arian mawr ar ei chorn, ac roedden nhw wedi gofyn i Banro am filiwn o ddoleri (£781,000) yn gyfnewid am y pedwar gafodd eu herwgipio.

Mae’r grwp o rebeliaid, Rahiya Mutomboki, wedi beirniadu’r cwmni cloddio am beidio rhoi mynediad na swyddi i bobol ifanc oedd wedi bod yn gweithio ar y safle cyn i’r cwmni gymryd drosodd.