Mae golygydd papur lleol yn Siberia, wedi cael ei saethu’n farw.
Mae ymchwilwyr yn ardal Krasnoyarsk yn dweud fod Dmitry Popkov, 42 oed, golygydd papur newydd Ton-M, wedi’i ganfod yn farw yn ei dref enedigol, gydag olion bwledi yn ei gorff.
Nid oes manylion wedi’u cyhoeddi ar hyn o bryd, ond mae ymchwilwyr yn trin y farwolaeth fel un amheus ac yn ceisio dod o hyd i reswm pam y byddai rhywun eisiau ei ladd.
Dmitry Popkov oedd wedi sefydlu’r papur newydd T0n-M yn 2014, ac roedd yn gyhoeddiad prin oherwydd ei fod yn feirniadol iawn o awdurdodau lleol a gwleidyddion.
Fe dreuliodd gyfnod ar gyngor dinas Minusinsk, cyn colli ei sedd.