Mae milwyr yn gwarchod adeiladau ffederal ym mhrifddinas Brasil wrth i’r arlywydd geisio ddal gafael yn ei swydd yn dilyn protestiadau tros honiadau ei fod yn llwgr.
Mae eisoes gwrthdaro wedi bod rhwng yr heddlu a phrotestwyr sydd wedi golygu bod llawer o swyddfeydd y llywodraeth wedi gorfod cael eu gwagio.
Gyda degau o filoedd o brotestwyr ar y strydoedd a gwleidyddion eraill yn galw am ei ymddiswyddiad, gorchmynnodd yr Arlywydd Michel Temer ar filwyr i ddod i Brasilia.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod 1,500 o filwyr yn cael eu defnyddio.
Dechreuodd y gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr yn fach ond mae bellach wedi gwaethygu, gyda thân yn dechrau yn swyddfeydd y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth a ffenestri a drysau yn cael eu torri mewn gweinyddiaethau eraill.
Tanio gwn
Mae lluniau’r wasg leol yn dangos heddlu’r fyddin yn tanio gynnau i’r awyr, dull sydd “ddim yn cael ei ddefnyddio mewn protestiadau”, yn ôl Swyddfa Diogelwch y Cyhoedd, sydd wedi addo y bydd ymchwiliad i’r mater.
Dywedodd fod un person wedi cael ei anafu gan y fwled ond daeth dim manylion am bwy saethodd y gwn.
Mae Michel Temer yn ceisio cadw ei bŵer yn dilyn cyhoeddi recordiad ohono sy’n ymddangos ei fod yn derbyn arian taw.
Mae llys uchaf Brasil yn ymchwilio i’r honiadau ei fod yn rhwystro cyfiawnder a’i fod yn rhan o gynllun llwgr.
Mae’r arlywydd yn gwadu gwneud unrhyw beth o’i le ac mae’n mynnu na fydd yn ymddiswyddo.