Donald Trump (Llun: Wikipedia)
Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn manteisio ar araith yn Saudi Arabia i alw am undod ar draws yr holl wledydd Mwslimaidd yn erbyn brawychiaeth.

Bydd e’n annerch 50 o arweinwyr gwledydd Mwslimaidd, lle bydd yn gosod eithafiaeth wrth galon “y frwydr rhwng da a drwg”, ac yn eu hannog i “yrru’r brawychwyr allan o’ch addoldai”.

Mae disgwyl y bydd ei iaith yn llai ymfflamychol yn yr araith hon, yn dilyn beirniadaeth yn y gorffennol ei fod yn defnyddio rhethreg gwrth-Islamaidd.

Fe fydd yn dweud: “Dydyn ni ddim yma i bregethu – i ddweud wrth bobol eraill sut i fyw, beth i’w wneud neu bwy i fod. Rydyn ni yma, yn hytrach, i gynnig partneriaeth wrth adeiladu dyfodol gwell i ni oll.”

Y daith

Yn ystod y daith, fe fydd Donald Trump yn cyfarfod yn unigol ag arweinwyr nifer o wledydd, gan gynnwys yr Aifft a Qatar, cyn mynd i gyfarfod Cyngor Cydweithredol y Gwlff ac agor canolfan wrth-frawychiaeth newydd dinas Riyadh.

Dim ond copi drafft o’i araith sydd wedi’i gyhoeddi hyd yma, ac mae’r awdurdodau’n dweud nad yw Donald Trump wedi penderfynu eto ar ei ddrafft terfynol.

Cefndir

Wythnos yn unig ar ôl dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, llofnododd Donald Trump orchymyn yn gwahardd mewnfudwyr o saith o wledydd Mwslimaidd rhag mynd i’r wlad.

Cafodd ei feirniadu’n hallt ar draws y wlad am y weithred honno, ac fe fu protestiadau ym mhob rhan o’r Unol Daleithiau a thu hwnt.

Cafodd y gwaharddiad ei atal gan y llysoedd, ac mae trafodaeth ar hyn o bryd ar ail orchymyn nad yw’n cynnwys Irac ar y rhestr.

Mae lle i gredu bod araith ddiweddaraf Donald Trump wedi’i ysbrydoli gan araith debyg gan Barack Obama yn 2009, er bod yr araith wedi’i beirniadu gan Weriniaethwyr ar y pryd.

Wrth i Donald Trump gyrraedd Saudi Arabia, fe dderbyniodd Goler Abdulaziz al Saud, yr anrhydedd fwyaf sydd ar gael i bobol gyffredin yn y wlad. Ymhlith y rhai sydd wedi’i dderbyn yn y gorffennol mae Arlywydd Rwsia Vladimir Putin, Prif Weinidog Prydain Theresa May a chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama.