Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Yn ôl adroddiadau, roedd yr Arlywydd Donald Trump wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol am y Wladwriaeth Islamaidd (IS) i swyddogion Rwsia yn ystod cyfarfod wythnos ddiwethaf.
Mae tri o swyddogion y Tŷ Gwyn a oedd yn y cyfarfod ar 10 Mai wedi gwadu’r adroddiadau yn y Washington Post, gan ddweud na chafodd ffynonellau cudd-wybodaeth na chynlluniau eu trafod.
Ond nid ydyn nhw wedi gwadu bod gwybodaeth gyfrinachol wedi cael ei datgelu.
Yn ôl y Washington Post roedd Donald Trump wedi rhannu manylion am fygythiad brawychol gan IS gyda gweinidog tramor Rwsia Sergei Lavrov a llysgennad Rwsia yn yr Unol Daleithiau, Sergey Kislyak.