Mae daeargryn cymhedrol yn mesur 5.4 wedi lladd wyth o bobol ac wedi anafu mwy nag ugain yng ngorllewin China.

Fe gafodd ardal Taxkorgan – sy’n ffinio â Tajikistan, Afghanistan a Phacistan – ei hysgwyd, ac mae’r awdurdodau’n dweud fod cymaint â 180 o gartrefi wedi’u llorio yn ystod y digwyddiad.

Y gred ydi fod canolbwynt y daeargryn tua chwe milltir o dan wyneb y ddaear.

Dim ond tua 33,000 o bobol sy’n byw yn ardal Taxkorgan, ac mae’n enwog am fod yn llecyn i oedi ar Briffordd Karakoram, ar y llwybr masnach hynafol sy’n cysylltu dinas Kashgar yng ngorllewin China gyda phrifddinas Pacistan, Islamabad.

Mae daeargrynfeydd yn bethau cyffredin yng ngorllewin China. Yn 2003, fe laddodd daeargryn yn mesur 6.8 gymaint â 268 o bobol; ac yn 2008 fe gafodd talaith Sichuan ei ysgwyd gan ddaeargryn 7.9, a chafodd bron i 90,000 o bobol eu lladd.