Mae dyn 85 oed o Nepal wedi marw wrth geisio bod yr unigolyn hynaf i gyrraedd copa mynydd ucha’r byd.
Bu farw
Everest (Llun: Pavel Novak CCA 2.5)
Min Bahadur Sherchan yn Base Camp, Everest, nos Sadwrn, Mai 6. Dyw hi ddim yn glir eto beth oedd achos ei farwolaeth.
Roedd y taid i 17 o wyrion a’r hen-daid i chwech o or-wyrion wedi dringo i gopa Everest yn 2008 pan oedd o’n 76 oed. Ar y pryd, ef oedd y dyn hynaf i gyrraedd y copa.
Ond fe dorrwyd ei record yn 2013 gan ddringwr 80 oed o Japan, Yuichiro Miura.