Mae o leiaf 14 o bobol wedi marw wedi i lori fynd ar ei phen i mewn i reilings a phlymio i mewn i gamlas yng ngogledd India,
Mae 22 o bobol eraill wedi’u hanafu yn ystod y ddamwain yn ardal Etah yn nhalaith Uttar Pradesh.
Yn ol yr heddlu, roedd y bobol yn y cerbyd yn dychwelyd adref ar ol bod mewn seremoni cyn priodas, ac mae’r swyddogion yn amau i’r gyrrwr fynd i gysgu wrth yr olwyn.
Mae ystadegau’r wlad yn dangos mai India sydd â’r nifer mwyaf o ddamweiniau ffyrdd angheuol yn y byd, a bod mwy na 110,000 o bobol yn marw bob blwyddyn mewn digwyddiadau fel hwn.