Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth, yn dilyn damwain ffordd angheuol a ddigwyddodd nos Iau, Mai 4.
Beic modur Yamaha yn cario reidiwr a theithiwr oedd yn y gwrthdrawiad ar briffodd yr A465 rhwng Glynebwy a Brynmawr.
Bu farw’r deithwraig 27 oed yn y fan a’r lle, ac fe gafodd y reidiwr 56 oed ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd yn diodde’ o anafiadau difrifol.
Mae ymchwilwyr ar hyn o bryd yn ceisio penderfynu beth achosodd y ddamwain, ac maen nhw’n rhagweld y bydd y ffordd ar gau tan tua amser cinio dydd Gwener.