Mae ffrwydriad mawr wedi bod mewn gwaith glo yng ngogledd Iran, ac mae dwsinau o ddynion yn sownd dan ddaear a beth bynnag ddau wedi’u lladd.

Mae ambiwlansys, hofrenyddion a cherbydau achub eraill wedi bod yn tyrru i’r safle yng ngogledd talaith Golestan, wrth i’r awdurdodau geisio darganfod beth yw maint y trychineb.

Y gred ydi fod rhwng 40 a 50 o bobol yn gaeth yn y gwaith ger tref Azadshahr.

Mae adroddiadau’n dweud i’r ffrwydriad ddigwydd tua 12.45yp amser lleol, ac mae nifer o bobol wedi bod yn rhoi’r bai ar nwy sydd wedi bod yn crynhoi y tu mewn i’r gwaith.

Mae o leiaf 25 o bobol a aeth i mewn i’r gwaith i geisio arbed y rheiny sy’n gaeth, wedi eu cludo i’r ysbyty eu hunain am anadlu’r nwy.