Mae dyn wedi’i saethu’n farw wrth fynd â’i blant i’r ysgol yng ngwlad Groeg.
Yn ol heddlu lleol, maen nhw’n chwilio am o leiaf ddau ddyn arfog a ymosododd ar y dyn arall wrth fynediad i ysgol yn ardal Glyka Nera, i’r dwyrain o’r brifddinas, Athen.
Y gred ydi y gallai’r digwyddiad fod yn gysylltiedig â brwydr rhwng gangiau.
Fe gafodd dynes ei hanafu hefyd yn ystod y digwyddiad, ac mae hi wedi’i chludo i’r ysbyty. Mae’r ysgol wedi’i chau.