Mae beth bynnag bump o bobol wedi marw yn dilyn ffrwydriad mawr yn un o’r trefi ar y ffin rhwng Syria a Thwrci.

Fe ffrwydrodd bom car yn nhref Azaz, yn weddol agos at swyddfeydd y llywodraeth dros-dro, a hynny wrth i’r wrthblaid yn y wlad gynnal trafodaethau cadoediad yn ninas Astana yn Kazakhstan.

Mae’r Unol Daleithiau yn anfon diplomydd i’r trafodaethau hynny, ac mae’r Arlywydd Donald Trump ac arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i gydweithio er mwyn datrys sefyllfa Syria.

Mae tref Azaz ar briffordd mewn ardal sy’n wrthwynebus i lywodraeth Twrci, ac mae’n ardal lle mae gwrthryfelwyr yn ei chysidro’n gadarnle. Mae hefyd yn ardal sy’n gartref i bobol sydd wedi gorfod ffoi am eu bywydau o ardaloedd eraill yn y wlad.

Mae’r dref wedi bod yn darged nifer o ymosodiadau, a’r Wadwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am rai ohonyn nhw. Ym mis Ionawr eleni, fe laddwyd o leiaf 50 o bobol gan ffrwydriad yno.