Amarjeet Singh-Bhakar (Llun trwy Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dau fachgen o’r Rhyl wedi eu cyhuddo o lofruddio Amarjeet Singh-Bhakar, 37, yn oriau mân fore Sul.

Bu farw Amarjeet Singh-Bhakar o Fanceinion yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ar ôl cael ei drywanu yn Rhodfa Tywysog Edward yn y Rhyl ar Ebrill 30.

Mae un bachgen wedi derbyn cyhuddiad pellach o glwyfo dyn arall ac mi fydd y ddau yn aros yn y ddalfa nes eu hymddangosiad gerbron Llys Wrecsam fore Mercher.

Mae tri unigolyn arall o ardal Y Rhyl wedi cael eu rhyddhau, ac mae pump unigolyn o Fanceinion wedi cael eu cyhuddo o achosi anhrefn dreisgar yn gysylltiedig â’r ymosodiad.