Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi ymosodiad rhyw ar ddynes oedd yn cerdded llwybr arfordir Cymru yng Nghei Connah yn Sir y Fflint ddydd Llun yr wythnos ddiwethaf.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad rywbryd rhwng 3yp a 5yp ddydd Llun, Ebrill 24.

Dydi’r heddlu ddim wedi rhoi disgrifiad o’r ymosodwr, ond maen nhw’n awyddus i siarad â thyst posib oedd yn cerdded yn yr ardal ar y pryd. Dyn gwyn ydi hwnnw, tua 19 oed, efo gwallt cyrliog brown at ei ên, ac roedd yn gwisgo tracwisg ar y pryd, a phâr o drênyrs am ei draed.

“Rydan ni’n cefnogi’r ddioddefwraig trwy’r cyfnod anodd hwn,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru, “ac er ei mwyn hi a’r gymuned leol, rydan ni’n benderfynol o ddod o hyd i’r ymosodwr a’i arestio cyn gynted â phosib.”