Bws wedi'i losgi ar y stryd yn Rio (Llun: AP/Silvia Izquierdo)
Mae dwsinau o ddynion wedi’u harestio, a’u harfau wedi’u cymryd oddi arnyn nhw, wrth i heddlu yn Brasil geisio mynd i’r afael â thrais yn ninas Rio de Janeiro ddydd Mawrth.

Ond fe arweiniodd ymgyrch yr heddlu at aelodau o gangiau yn rhoi bysus cyhoeddus a lorïau ar dân, ac fe fuon nhw’n saethu’n agored at blismyn yn y strydoedd.

Erbyn diwedd pnawn Mawrth, roedd 45 o ddynion yn y ddalfa, a dwsinau o arfau, yn cynnwys reiffls a grenadau, wedi’u cymryd gan yr heddlu.

Does yna ddim adroddiadau hyd yma fod neb wedi’i anafu.