Mae archfarchnad Sainsbury’s wedi bod yn rhybuddio pa mor “heriol” ydi’r maes, wrth feio’r pwysau parhaus i gadw prisiau i lawr ar y cwymp o 8.2% yn elw blynddol y cwmni.

Mae’r gadwyn wedi cofnodi elw cyn treth o £503m ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar Fawrth 11 eleni. Mae hynny i lawr o £548m y flwyddyn flaenorol.

Fe gwympodd yr elw 0 1%, wrth i’r archfarchnad ddod dan bwysau i gadw prisiau’n isel a cheisio delio gyda lefel y bunt. Mae’r cwmni newydd brynu siopau Argos, ac fe ddaeth y rheiny ag elw o £77m i mewn.

Mae Sainsbury’s yn dal i ddweud eu bod yn “gystadleuol”… ond nad oes modd dweud pa effaith gaiff y frwydr i gadw prisiau i lawr, ar y cwmni.