Mae o leiaf 22 o bobol wedi cael eu llad mewn ffrwydrad ger rhes o fysus yng ngogledd Syria.
Mae ffigurau answyddogol yn awgrymu mai 24 o bobol sydd wedi marw yn ne Aleppo, sydd dan reolaeth gwrthryfelwyr.
Yn ôl y gwrthryfelwyr, mae’r nifer yn uwch o lawer na hynny.
Roedd dwsinau o fysus wedi’u parcio yno ers dros 30 awr pan ddigwyddodd yr ymosodiad, ac mae lle i gredu mai bom car oedd wedi cael ei ffrwydro.
Roedden nhw i fod i gludo pobol oddi yno cyn i ffrae atal y broses honno.
Cyrchoedd awyr
Yn y cyfamser, mae cyrchoedd awyr wedi’u cynnal yn erbyn rhai o ganolfannau Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.
Mae o leiaf un aelod o’r mudiad wedi cael ei ladd yn Raqqa, sef Abu Bakir al-Habeeb al-Hakim, yn ôl adroddiadau.
Mae lle i gredu ei fod e’n un o aelodau mwyaf blaenllaw’r mudiad yn Raqqa.