Chuck Berry (Llun: PA)
Fe fydd rhai o gefnogwyr Chuck Berry yn cael y cyfle i weld ei gorff cyn ei angladd ddydd Sul.

Bu farw’r seren roc a rôl dair wythnos yn ôl yn 90 oed yn St Louis.

Bydd yn cael ei gofio am ei glasuron Johnny B. Goode, Sweet Little Sixteen a Roll Over Beethoven.

Bydd ei angladd yn achlysur preifat i’w deulu a’i ffrindiau.

Chuck Berry oedd yr enw cyntaf yn Oriel yr Enwogion y byd Roc a Rôl yn 1986, ac mae e wedi dylanwadu ar lu o fandiau dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Rolling Stones a’r Beatles.