Mae’r cyflwynydd radio poblogaidd, Brian Matthew wedi marw’n 88 oed.

Bydd e’n cael ei gofio’n bennaf am fod yn gyflwynydd Radio 2, ac yn benodol ar raglen Sounds of the 60s.

Gwnaeth ei enw dros hanner canrif yn ôl fel un o gyflwynwyr cyntaf Radio 2, gan gyflwyno rhaglenni megis After Seven a Round Midnight.

Fe fu’n cyflwyno Sounds of the 60s tan iddo orfod ymddeol ym mis Tachwedd oherwydd salwch.

Gyrfa

Fe ddaeth i sylw penaethiaid radio yn 1957 wrth iddo gyflwyno Saturday Skiffle Club, gan mai cyhoeddwr radio, ac nid cyflwynydd, oedd e cyn hynny.

Trwy’r rhaglen hon y daeth yn gyfwelydd poblogaidd.

Fe gafodd nifer o gyfleoedd ar y teledu fel cyflwynydd rhaglenni megis Thank Your Lucky Stars a Swinging UK.

Enillodd nifer o wobrau am ei waith radio, gan gynnwys y Broadcasting Guild Award yn 1990 am ei gyfraniad i’r byd radio.

BBC

Cyhoeddodd y BBC ar Ebrill 4 ei fod e wedi marw, ond cafodd y datganiad ei dynnu’n ôl yn ddiweddarach, gan egluro ei fod e’n ddifrifol wael yn yr ysbyty.