Yr Arlywydd Assad
Mae gorsaf deledu’r wladwriaeth yn Syria wedi condemnio ymosodiad America ar safle awyr Shayrat yn y wlad, gan ddweud bod o leiaf saith wedi eu lladd.

Yn ôl adroddiad ar yr orsaf roedd anelu hyd at 60 o daflegrau at y safle awyr yn weithred “ymosodol” gan America.

Ond mae’r rhai sy’n gwrthwynebu Arlywydd Syria, Bashar Assad, wedi croesawu’r bomio ddaeth yn sgîl ymosodiad cemegol ar wrthwynebwyr Assad a laddodd dros 80.

Fe gafodd y taflegrau eu tanio o ddau gwch rhyfel ym Môr y Canoldir, a hynny mewn ymateb i’r ymosodiad cemegol ddydd Mawrth.

Tra mae Llywodraeth Prydain wedi dweud bod yr ymosodiad ar faes awyr Shayrat yn “briodol”, mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi cyhuddo America o dorri cyfraith ryngwladol drwy ymosod ar wlad sofran.

Yn ôl America, fe gafodd yr ymosodiad cemegol ei lansio o’r maes awyr yn Shayrat.