Mae Verne Troyer – sydd yn enwog am bortreadu ‘Mini-Me’ yn y ffilmiau Austin Powers – wedi dweud ei fod yn derbyn triniaeth oherwydd ei fod yn gaeth i alcohol.

Yn ôl neges ar ei dudalen facebook mae’r actor dwy droedfedd ac wyth modfedd wedi bod yn derbyn triniaeth ers wythnos. Ar y wefan gymdeithasol roedd yn diolch i’w ffans am ei gefnogi ac yn gofyn am breifatrwydd.