Mae o leia’ saith o bobol wedi’u lladd gan fom car a ffrwydrodd ym mhrifddinas Somalia.

Yr ofn ydi mai eithafwyr al-Shabab extremists, sydd wedi addo siglo llywodraeth newydd y wlad, sydd y tu ol i’r ymosodiad ger y weinyddiaeth ieuenctid a chwaraeon yn Mogadishu.

Er hynny, does yna’r un mudiad na grwp wedi hawlio cyfrifoldeb eto am y digwyddiad ,

Fe gafodd bwyty ei ddifetha’n llwyr gan y ffrwydriad, ac mae’r heddlu wedi tynnu corff un dyn allan o’r rwbel, gan rybuddio ei bod hi’n bur debygol y bydd yna fwy o gyrff yn cael eu canfod.