Eglwys yng nghanol pentre’ Dolwyddelan yn Eryri yw’r gyntaf yng Nghymru i ennill gwobr ar gyfer eglwysi ‘gwyrdd’.

Yn ôl cymuned Eglwys Sant Gwyddelan, eu heglwys nhw yw’r gynta’ yng ngwledydd Prydain i ennill Gwobr Eco-eglwys yr elusen amgylcheddol ryngwladol, A Rocha.

Fe ddechreuodd yr eglwys ar y broses o droi’n wyrdd yn 1984 pan gafodd to tywarch ei osod ar gwt yr eglwys er mwyn ei inswleiddio. Ers hynny mae nifer o newidiadau ecogyfeillgar  wedi cael eu cyflwyno gan gynnwys newid y bylbiau golau i fylbiau LED a gosod y goleuadau ar switsys amseru.

Mae’r Eglwys hefyd wedi cyflwyno dull rheoli torri glaswellt sy’n caniatáu blodau gwylltion i dyfu ac wedi  gosod blychau adar gyda chyngor y Gymdeithas Adar.

“Symlrwydd y 16eg ganrif”

“Yn naturiol, rydyn ni wrth ein boddau mai ydy’r Eglwys gyntaf yng Nghymru i dderbyn ein Gwobr Efydd Eco-eglwys,” meddai Cydlynydd Eco-eglwys Sant Gwyddelan, Sue Layland.

“Mae hyn yn ganlyniad nifer lawer o bobl yn gwneud eu rhan, a’r awydd i gadw costau’n gynaliadwy mewn adeilad eglwys sy’n glynu’n driw at ei symlrwydd o’r 16eg ganrif.”

Fe dderbyniodd yr eglwys grant o £14,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2011 fel rhan o ymgyrch i adnewyddu adeiladau hanesyddol pwysicaf Cymru.