Vladimir Putin
Mae beth bynnag ddeg o bobol wedi’u lladd gan ffrwydriad ar drên danddaearol yn St Petersburg, Rwsia.
Mae’r arlywydd y wlad, Vladimir Putin, a oedd ar ymweliad â’r ddinas, wedi dweud fod ymchwiliad ar y gweill er mwyn penderfynu os mai ymosodiad brawychol oedd yn gyfrifol am y ffrwydriad.
Mae Pwyllgor Gwrth-frawychiaeth Rwsia wedi cadarnhau fod “nifer” o bobol wedi’u lladd, a bod dyfais ffrwydrol wedi chwythu i fyny ar drên.
O ganlyniad i’r digwyddiad, mae nifer o orsafoedd yng ngogledd y ddinas wedi cau.
Roedd disgwyl i Vladimir Putin gynnal trafodaethau gydag arlywydd Belarus yn St Petersburg yn ddiweddarach heddiw.