Aleksandar Vucic
Mae prif weinidog Serbia, Aleksandar Vucic, yn honni ei fod wedi ennill etholiad arlywyddol y wlad.
Mae wedi bod yn siarad gyda chefnogwyr y tu allan i bencadlys ei blaid asgell dde. “Mae hi’n glir mai fi sydd wedi ennill,” meddai. “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn i ni, yn dangos i ba gyfeiriad y dylai Serbia fynd.”
Mae “mwyafrif anferth” o bobol Serbia wedi dangos cefnogaeth i’r broses o newid sydd ar y gweill, meddai wedyn, gan ddweud eu bod nhw o blaid parhau yn aelodau llawn o Ewrop tra ar yr un pryd o blaid cadw’r cysylltiadau “da” gyda Rwsia a China.
Mae’r polau swyddogol yn gosod ei wrthwynebydd rhyddfrydol, Sasa Jankovic, yn yr ail safle gyda 15% o’r bleidlais, a myfyriwr o’r enw Luka Maksimovic yn ennill 9% yn y trydydd safle.
Mae disgwyl i ganlyniad yr etholiad gael ei gyhoeddi’n swyddogol ddydd Llun.