Mae tri o bobol wedi marw a 19 o bobol wedi’u hanafu ar ôl i fws oedd yn cludo myfyrwyr i ganolfan sgïo yn Sweden daro bloc iâ, yn ôl adroddiadau.
Mae chwech o bobol mewn cyflwr difrifol, meddai’r gwasanaethau brys.
Roedd y bws yn cludo 52 o ddisgyblion a saith o oedolion i’r ganolfan ger tref Sveg.
Yn ôl adroddiadau, roedd amodau gyrru’n beryglus ar y pryd.
Dywedodd y prif weinidog Stefan Lofven fod “y wlad gyfan yn galaru”.