Brynglas (Llun: Llywodraeth Cymru)
Fe fydd twnnel Brynglas ynghau tan fore Llun wrth i’r gwaith cynnal a chadw barhau.
Fe fydd y twneli’n cau saith gwaith rhwng cyffordd 25a a chyffordd 26 eleni.
Mae traffig i’r gorllewin yn symud ar hyd yr A48 rhwng cyffordd 24 a chyffordd 28 yr M4.
Fe allai gael effaith ar y gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Middlesbrough yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma, wrth i deithwyr i’r de orfod teithio ar hyd yr A40 a’r A465.