Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth am ddwy ferch 16 oed o Bont-y-pŵl sydd wedi mynd ar goll, ond maen nhw’n pwysleisio nad oes cyswllt rhwng y ddwy.

Carly Roberts

Dydy Carly Roberts ddim wedi cael ei gweld ers 4.50 brynhawn ddoe, ac mae’r heddlu’n gofidio amdani.

Mae hi’n 5’6″ a chanddi wallt brown hir. Roedd hi’n gwisgo leggings du, esgidiau du, top gwyn neu lwyd a siaced guddliw werdd.

Deanna Meyrick

Dydy Deanna Meyrick ddim wedi cael ei gweld ers 4 o’r gloch brynhawn ddoe, ac mae’r heddlu’n gofidio amdani.

Mae hi’n 5’7″ a chanddi wallt coch/melyn.

Roedd hi’n gwisgo trowsus glas, top byr glas a siaced frown.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.