Debbie Reynolds a'i merch, Carrie Fisher (Llun: PA)
Mae cannoedd o bobol wedi bod yn talu teyrnged i’r actorion Debbie Reynolds a Carrie Fisher mewn gwasanaeth coffa yn Hollywood.

Bu farw’r fam a’r ferch o fewn diwrnod i’w gilydd ym mis Rhagfyr, a chawson nhw eu claddu gyda’i gilydd ym mynwent Forest Lawn yn Hollywood.

Ymhlith y siaradwyr yn y gwasanaeth coffa roedd yr actor Dan Ackroyd a brawd Carrie Fisher, Todd.

Wrth dalu teyrnged i’r ddwy, dywedodd Todd Fisher: “Doedd neb gwell na fy mam na’m chwaer.”

Dywedodd fod ei fam “wedi gofyn caniatâd” cyn marw, gan ddweud ei bod hi eisiau “bod gyda Carrie”.

Dywedodd Dan Ackroyd, oedd wedi dyweddïo â Carrie Fisher am gyfnod, ei bod hi’n “siarp, yn ddoniol iawn, yn ddisgynedig, yn chwerthin, yn crïo, yn esgynnol, yn fywiog”.

Ychwanegodd ei fod e wedi achub ei bywyd yn y gorffennol wrth iddi dagu ar ei bwyd.

Mam a merch

Bu farw Carrie Fisher yn 60 oed ar Ragfyr 27 ar ôl cael trawiad ar y galon ar awyren o Lundain i Los Angeles.

Bu farw ei mam, Debbie Reynolds ddiwrnod yn ddiweddarach yn 84 oed ar ôl cael strôc.

Cafodd fideos o’r ddwy eu dangos yn ystod y gwasanaeth, a chyfres o luniau gyda’r gân ‘You’re Beautiful’ gan James Blunt yn chwarae yn y cefndir.

Cafodd y gân ei hysgrifennu yn ystafell ymolchi Carrie Fisher.