Donald Trump (Michael Vadon CCA 4.0)
Mae Donald Trump ac arweinwyr y Gweriniaethwyr yn America wedi tynnu’n ôl eu mesur i ddiddymu’r gyfundrefn gofal iechyd a elwir yn ‘Obamacare’.

Fe ddigwyddodd hyn neithiwr ar ôl iddi ddod i’r amlwg na fyddai gan y mesur obaith o fynd trwy Dŷ’r Cynrychiolwyr.

Gyda’r bwriad i gael gwared ar Ddeddf Gofal Fforddiadwy Barack Obama ymysg prif addewidion Donald Trump yn etholiad yr Arlywyddiaeth, mae’r methiant yma’n ergyd difrifol iddo.

Roedd wedi honni drwy’r ymgyrch mai ef yn unig a allai ddatrys problemau gofal iechyd America.

Roedd Donald Trump ei hun wedi mynnu bod y bleidlais yn digwydd neithiwr doed a ddelo, ond methodd ei gambl wrth i wleidyddion Gweriniaethol wrthod ei gefnogi.

Cafodd y mesur ei dynnu’n ôl funudau cyn y bleidlais, a dywedodd llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr, Paul Ryan, y bydd cyfraith iechyd Obama yn aros mewn grym “am y dyfodol rhagweladwy”.