Athrawon yn protestio yn ninas Buenos Aires (Llun: PA)
Mae degau o filoedd o athrawon yr Ariannin wedi bod yn gorymdeithio yn Buenos Aires heddiw, fel rhan o streic genedlaethol yn gwrthwynebu’r Arlywydd Mauricio Macri.

Mae undebau athrawon mewn ysgolion gwladol a phreifat yn mynnu codiad cyflog o 35% er mwyn gwneud yn iawn am gyfradd uchel chwyddiant sy’n gyrru costau byw drwy’r to.

Fe ddechreuodd athrawon streicio ar Fawrth 6, gan achosi oedi yn nechrau’r flwyddyn addysgol, ac fe gafodd hynny effaith fawr ar incwm ysgolion preifat.

Heddiw, mae protestwyr wedi rhwystro rhai o brif strydodd y brifddinas, Buenos Aires, wrth iddyn nhw anelu am balas yr arlywydd.

Ond mae Mauricio Macri wedi beirniadu’r streic, gan ei disgrifio fel gweithred wleidyddol yn y cyfnod hwn yn arwain at etholiad y Gynghres ym mis Hydref eleni.

Mae’r arlywydd wedi diswyddo degau o filoedd o weithwyr y wladwriaeth ac wedi torri taliadau ychwanegol er mwyn torri’n ôl ar wariant y llywodraeth.