Protester ar strydoedd Seoul, De Korea, heddiw, yn dathlu cwymp yr arolywydd Park Geun-hye (llun: AP Photo/Ahn Young-joon)
Mae degau o filoedd o bobl De Korea yn dathlu ar strydoedd y brifddinas Seoul heddiw ar ôl i arlywydd y wlad golli ei grym.

Cafodd Park Geun-hye ei diswyddo gan Lys Cyfansoddiadol y wlad ddoe ar sail cyhuddiadau o lygredd sydd wedi bod yn achosi helyntion ers misoedd.

Gyda thyrfa fawr o’i chefnogwyr hi allan yn protestio hefyd, mae bron i 20,000 o blismyn yn ceisio rhwystro gwrthdaro rhwng y ddwy garfan.

Mae Park Geun-hye, a oedd wedi bod mewn grym ers 2012, yn ferch i’r unben Park Chung-hye a fu’n arwain y wlad rhwng 1963 ac 1979.

Hi yw’r unig ddynes i fod wedi arwain y wlad, a hi hefyd yw’r arweinydd cyntaf i gael ei diswyddo ers cyflwyno trefn ddemocrataidd o lywodraethu yn 1980.

Fe fydd yn rhaid i Dde Korea gynnal etholiad o fewn dau fis i ddewis olynydd.

Roedd y Llys Cyfansoddiadol yn cyhuddo Park Geun-hye o gydweithredu â’i ffrind Choi Soon-sil i orfodi busnesau i dalu degau o filiynau o ddoleri, ac o adael i Choi Soon-sil, dinesydd preifat, i ddylanwadu’n amhriodol ar lywodraeth y wlad.