Mae’r heddlu wedi gwahardd canolfan siopa yn Essen yng ngogledd-orllewin yr Almaen rhag agor heddiw oherwydd bygythiad o ymosodiad.
Mae tua 100 o blismyn, y mwyafrif ohonyn nhw’n arfog, yn amgylchynu’r ganolfan a’r maes parcio i rwystro neb rhag mynd i mewn.
“Fel yr awdurdod diogelwch yma, rydym wedi penderfynu cau’r ganolfan siopa,” meddai Christoph Wickhorst ar ran yr heddlu, gan wrthod rhoi manylion pellach am yr ymchwiliad sydd ar y gweill.
Mae’r ganolfan siopa yn Limbecker Platz yn un o’r rhai mwyaf yn yr Almaen, gyda dros 200 o siopau ac yn denu hyd at 60,000 o bobl ar ddydd Sadwrn arferol.
Daw’r bygythiad ar ôl cyfres o ymosodiadau arfog mewn mannau cyhoeddus yn yr Almaen dros y flwyddyn ddiwethaf.