Talaith Hawaii yw’r gynta’ i ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn gwaharddiad teithio yr Arlywydd Donald Trump.
Fe aeth y dalaith i gyfraith dros waharddiad cynta’ Donald Trump, ond fe gafodd yr achos hwnnw ei ohirio tra bod achosion eraill yn digwydd ledled y wlad.
Fe ddaeth rhybudd gan Hawaii nos Fawrth ei bod yn bwriadu cyflwyno achos yn erbyn y gwaharddiad newydd y mae disgwyl iddo ddod i rym ddydd Iau nesa’, Mawrth 16.
Mae’r gorchymyn newydd gan Donald Trump yn gwahardd rhoi fisas teithio i bobol o chwech o wledydd Mwslimaidd, ac mae’n tynnu’r Unol Daleithiau allan o’r rhaglen ffoaduriaid.
Mae achos Hawaii yn dweud y byddai’r gorchymyn yn niweidio trigolion Mwslimaidd y dalaith, ei thwristiaeth a’i myfyrwyr o dramor.