Map o Queensland, Awstralia
Mae dynes o Brydain yn honni iddi gael ei dal yn erbyn ei hewyllys a’i threisio dros gyfnod o ddeufis yn Awstralia.

Daeth yr heddlu o hyd i’r teithiwr 22 oed yn Queensland  ar ôl stopio’r cerbyd yr oedd hi’n gyrru pan fethodd a thalu am betrol mewn gorsaf.  Roedd ganddi anafiadau i’w hwyneb a’i gwddf.

Dywedodd wrth yr heddlu ei bod wedi ei dal yn erbyn ei hewyllys gan ddyn yr oedd wedi cwrdd mewn parti yn Cairns.

Mae’n debyg i’r dyn ddifrodi ei phasbort, o bosib i’w rhwystro rhag dianc, meddai Heddlu Queensland.

Mae’r heddlu’n credu eu bod nhw wedi achub ei bywyd ar ôl arestio’r dyn sy’n cael ei amau o’r troseddau yn cuddio dan ddillad yng nghefn y cerbyd. Roedd y ddau wedi bod yn teithio o gwmpas Queensland yn y cerbyd ers 2 Ionawr.

Dywedodd yr heddlu bod y ferch wedi dweud wrthyn nhw ei bod hi wedi bod mewn perthynas â’r dyn “ond bod y berthynas wedi suro a’i fod wedi ei chadw yn erbyn ei hewyllys a chyflawni nifer o droseddau yn ei herbyn wrth iddyn nhw deithio yn y dalaith.”

Mae’r ddynes wedi cael triniaeth yn yr ysbyty am ei hanafiadau ac wedi bod mewn cysylltiad â’i theulu yn y Deyrnas Unedig.

Bu’r dyn o Manunda yn Cairns, gerbron llys ddydd Llun i wynebu cyfres o gyhuddiadau gan gynnwys pedwar cyhuddiad o dreisio, wyth cyhuddiad o ymosod a phedwar cyhuddiad o grogi.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn rhoi cymorth i ddynes o Brydain yn dilyn digwyddiad yn Queensland a’u bod mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol.