Siop Budgens. (Llun: Tim Ockenden/PA Wire)
Mae mwy na 800 o swyddi, gan gynnwys 62 yng Nghymru, wedi diflannu ar ôl i berchennog 34 o siopau Budgens gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Mae gan y cwmni dair siop yng Nghymru, yn Aberystwyth, Aberteifi, a Threfynwy, sy’n cyflogi 62 o weithwyr.
Roedd Food Retailer Group wedi penodi’r gweinyddwyr PwC fis diwethaf ond maen nhw wedi methu a dod o hyd i brynwr ar gyfer y grŵp.
Mae cyfanswm o 815 o staff wedi dechrau’r broses ddiswyddo.
Roedd Food Retailer Group wedi prynu’r siopau gan Grŵp Co-operative ym mis Gorffennaf.
Ar y pryd dywedodd y cwmni nad oedd unrhyw fwriad i ddiswyddo staff ac y byddai’r siopau yn “parhau i fasnachu yn ôl yr arfer.”