Mae gwlad yr Iorddonen wedi dienyddio deg o ddynion a gafwyd yn euog o frawychiaeth.

Dyma’r sesiwn fwya’ ers i’r wlad gyhoeddi ddwy flynedd yn ol ei bod am wasgu’n galetach ar eithafwyr Islamaidd.

Fe gafodd y dynion eu crogi gyda’r wawr fore Sadwrn yng ngharchar Swaqa yng nghanolbarth y wlad. Fe gafodd pump o ddynion eraill hefyd eu dienyddio, a hynny am droseddau yn cynnwys treisio merched.

Yn ol yr awdurdodau, roedd y dynion a grogwyd heddiw yn gyfrifol am bump o achosion o frawychiaeth, yn cynnwys ymosodiad ar grwp o ymwelwyd mewn amffitheatr yn y brifddinas, Amman, yn 2006.

Roedd troseddau eraill yn cynnwys ymosodiad bom ar lysgenhadaeth y wlad yn Irac yn 2003, ynghyd â saethu awdur ar risiau llys yn Amman ym mis Medi y llynedd.