Mae tair o ferched yn eu harddegau, ynghyd â dynes 18 oed, wedi cael eu dwyn i’r ddalfa yn Ffrainc, wedi’i hamau o gynllwynio ymosodiadau brawychol.

Mae’r pedair yn cael eu hamau o fod yn rhan o sianel sgwrsio ar-lein o’r enw ‘The Lionesses’ trwy app anfon negeseuon Telegram.

Mae’r erlynwyr yn Ffrainc yn honni bod y pedair wedi sôn am y posibilrwydd o baratoi “gweithrediadau treisgar”.

Mae tair o’r pedair yn ferched ysgol 14, 15 ac 17 oed. Mae’r bedwaredd newydd droi’n ddeunaw ddechrau’r flwyddyn.